Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig

Canllawiau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig effeithiol

Mae tystiolaeth ysgrifenedig yn hanfodol i waith y Pwyllgor. Mae pob darn o dystiolaeth ysgrifenedig yn bwysig ac mae’r Pwyllgor yn darllen ac yn defnyddio pob un. Fodd bynnag, mae yna rai pethau allweddol y gallwch eu gwneud er mwyn sicrhau bod eich tystiolaeth mor effeithiol a hygyrch â phosibl.

Mae’r nodyn byr hwn yn egluro sut y mae pwyllgorau’n defnyddio tystiolaeth ysgrifenedig a sut y gallwch sicrhau bod eich tystiolaeth yn cael yr effaith fwyaf posibl.

 

Pam mae pwyllgorau yn casglu tystiolaeth ysgrifenedig?

Mae eich tystiolaeth yn hanfodol bwysig. Mae pwyllgorau yn casglu cyfraniadau ysgrifenedig am nifer o resymau, gan gynnwys:

- Atebolrwydd democrataidd: Er mwyn sicrhau bod Aelodau yn deall safbwyntiau a phryderon ystod eang o randdeiliaid a’r cyhoedd wrth ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif yn ystod ymchwiliadau polisi, wrth graffu ar ddeddfwriaeth ac yn y blaen;

- Eglurder tystiolaeth: Fel bod grwpiau ac unigolion yn cael cyfle i rannu eu barn yn glir ac mewn ffordd ystyriol; ac,

- Argymhellion effeithiol: Mae tystiolaeth ysgrifenedig effeithiol yn caniatáu i’r Pwyllgor ddod i gasgliadau, ffurfio barn a gwneud argymhellion cadarn ar sail dealltwriaeth o’r ystod lawn o safbwyntiau sy’n ymwneud â mater penodol.

Er bod y Pwyllgor yn casglu tystiolaeth mewn sawl ffordd, gan gynnwys arolygon, digwyddiadau ar gyfer rhanddeiliaid a thystiolaeth lafar ffurfiol, mae tystiolaeth ysgrifenedig yn aml yn gonglfaen ar gyfer gwaith y pwyllgor.

 

Sut y defnyddir tystiolaeth ysgrifenedig?

Bydd galwad am dystiolaeth ysgrifenedig yn aml yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â naill ai “cylch gorchwyl” yn nodi’r materion y mae’r Pwyllgor yn ymddiddori ynddynt, neu gyfres o gwestiynau ymgynghori. Defnyddir y dystiolaeth a gesglir mewn nifer o ffyrdd:

- I roi gwybodaeth i’r Aelodau sydd yn ei darllen a’i defnyddio fel sail ar gyfer eu cwestiynau i’r tystion, gan gynnwys Ysgrifenyddion Cabinet Llywodraeth Cymru a Gweinidogion;

- Mae clercod ac ymchwilwyr sy’n cefnogi ac yn cynghori'r Pwyllgor yn ei defnyddio wrth baratoi briffiau ar gyfer Aelodau;

- Bydd tystiolaeth ysgrifenedig yn llywio adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor. Oherwydd y nifer fawr o gyfraniadau a ddaw i law a’r angen i ganolbwyntio ar faterion penodol wrth greu adroddiad, ni ellir cyfeirio at yr holl dystiolaeth ysgrifenedig. Fodd bynnag, mae’r cyfan yn cael ei ddefnyddio ac yn dylanwadu ar y Pwyllgor; ac,

- I ddewis tystion ar gyfer sesiynau tystiolaeth lafar.

Fel rheol, cyhoeddir tystiolaeth ysgrifenedig.

 

Beth sy’n gwneud tystiolaeth ysgrifenedig effeithiol?

Mae’r adran hon yn rhestru cyfres o bethau a fydd yn gwneud eich tystiolaeth ysgrifenedig yn gliriach ac yn fwy effeithiol er mwyn iddi gael yr effaith fwyaf posibl.

- Nodwch yn glir o bwy y mae’r cyfraniad yn dod, gan nodi a ydych yn ysgrifennu ar eich rhan chi’n bersonol neu ar ran sefydliad. Yn fyr, cyflwynwch eich hun a/neu eich sefydliad;

- Byddwch yn gryno. Ni ddylai tystiolaeth ysgrifenedig fod yn hwy na 6 tudalen/2,000 o eiriau oni nodir yn wahanol yn y cylch gorchwyl neu ar dudalen gwybodaeth yr ymchwiliad;

- Ystyriwch yn ofalus y neges(euon) allweddol rydych am eu cyfleu i’r Aelodau gan flaenoriaethu;

- Dylech gynnwys grynodeb byr o’r pwyntiau allweddol – yn ddelfrydol ar ddechrau’r papur;

- Ceisiwch ymateb yn uniongyrchol i gwestiynau’r ymgynghoriad/y cylch gorchwyl. Fodd bynnag, nid oes angen i chi ymateb i bob un ohonynt os nad ydynt yn berthnasol i chi. Yn yr un modd, mae croeso i chi nodi unrhyw feysydd perthnasol nad ydynt o dan sylw os ydych chi’n eu hystyried yn bwysig;

- Defnyddiwch baragraffau wedi’u rhifo;

- Gwiriwch eglurder yr iaith, y gramadeg, y sillafu a’r atalnodi;

- Nodwch unrhyw atebion pragmatig neu argymhellion gweithredu i Lywodraeth Cymru (neu eraill) y byddwch yn hoffi i’r Pwyllgor eu hystyried;

- Ceisiwch osgoi rhoi barn yn unig. Mae’r cyfraniadau ysgrifenedig mwyaf effeithiol fel arfer wedi’u seilio ar dystiolaeth a/neu enghreifftiau;

- Ceisiwch osgoi atodiadau os yn bosibl. Mae defnyddio hyperlincs yn ffordd fwy effeithiol o gyfeirio at ragor o wybodaeth os bydd angen. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib, mae atodiadau yn well na chynnwys llawer iawn o ddeunydd ym mhrif gorff y cyfraniad; ac 

- Mae’n bwysig iawn ymateb erbyn y dyddiad cau, hyd yn oed os yw’r dyddiad cau hwnnw yn gynnar iawn— ychydig o wythnosau cyn ichi ymddangos o flaen Pwyllgor i roi tystiolaeth lafar, er enghraifft. Mae dyddiadau cau yn cael eu cynllunio’n ofalus er mwyn caniatáu digon o amser i aelodau’r Pwyllgor ddarllen a dadansoddi’r dystiolaeth.

Diolch ichi am roi o’ch amser i gefnogi gwaith y Pwyllgor. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm clercio ar SeneddNHAMG@cynulliad.cymru neu ar 0300 200 6363 i drafod eich tystiolaeth a’ch dull gweithredu.